|
CRISTNOGAETH AC ECOLEG |
|
|
Mi fyddai'n hawdd i ni gael ein llorio gan faint y problemau byd eang rydym yn clywed amdanynt o ddydd i ddydd - tymheredd y byd yn codi, dinistr y fforestydd glaw, llygriad y môr, sychder a newyn, dilead rhywogaethau a’r cynhyrchu dibendraw ar arfau rhyfel. Yn aml maent yn ymddangos mor bell oddi wrthym fel bod gweithredu unigol yn ymddangos yn ofer. Ond peidiwn â digalonni- mae mwy a mwy o bobl yn cydnabod fod modd i bob un ohonom helpu'r sefyllfa trwy newid y pethau rydym yn eu defnyddio, ailfeddwl y modd rydym yn ymdrin â phobl eraill ac anifeiliaid, a dewis ffyrdd mwy cynhyrchiol o dreulio'n hamser. Mae'n bosib cyfeirio'n hymdrechion i newid y byd o'n hamgylch. Sefydlwyd CEL ym 1981 gan Gristnogion oedd yn credu mai ein dyletswydd ni yw taclo'r problemau hyn a sefyll yn gadarn dros ein daliadau. AMCANION A GWEITHGAREDDAU
Daw ein cefnogwyr o amrywiol draddodiadau Cristnogol - Anglican, Uniongred, Yr Eglwys Babyddol yn ogystal a'r Eglwysi Rhyddion yn cynnwys y Crynwyr a grwpiau tai. Ceisiwn ysgogi diddordeb, trafodaeth ac ymwybyddiaeth newydd, a gweithredu ymarferol trwy gyfrwng cylchgrawn, cynhadleddau, a chyhoeddiadau achlysurol. Byddwn yn mynd o amgylch i gynnal sgyrsiau mewn eglwysi; gyda myfyrwyr a chymdeithasau eraill ac mae gennym rwydwaith o gelloedd lleol. Yn genedlaethol, rydym wedi:-
Mae CEL yn gweithio gyda llawer o gyrff Cristnogol a chymdeithasau amgylcheddol, heb fod yn aelodau ffurfiol o unrhyw un AMCANU AT EGLWYS WERDDFe all Christian Ecology Link eich helpu i gael cyfarpar rydych ei angen. Fe allwn hefyd eich cysylltu ag aelodau eraill yn eich ardal a'ch bro. Mae mwy a mwy o eglwysi a grwpiau'n cysylltu â CEL yn gyson. Mae'r pecyn, Steps Towards Sustainability, yn cynnwys gwybodaeth a deunydd fyddai yn rhoi atebion i gwestiynau fyddai aelodau o'ch Eglwys yn awyddus i gael atebion. Cylchgrawn chwarterol ydi Green Christians a hefyd mae pamffledi achlysurol yn ymddangos.DIFATERWCH NEU WEIThrEDU?Bydd newidiadau yn digwydd pan fo pobl yn dechrau gweithredu. Dyma rai awgrymiadau -
RHAI FFEITHIAU
CHRISTIAN ECOLOGY LINK:I ymuno â CEL anfonwch y rhan hon o'r daflen i Christian Ecology Link, 3, Bond Street, Lancaster, LA1 3ER, UK.PRIF LYTHRENNAU, OS GWELWCH YN DDA EICH ENW ........................................................................ CYFEIRIAD ........................................................................ ........................................................................ ........................................................................ CÔD POST .................... FFÔN ........................................... Hoffwn ymaelodi â CEL. Cost blynyddol £18 (llawn) £8 (di-waith) £25 ar y cyd (2 o bobl o dan yr un cyfeiriad) Os gwelwch yn dda a wnewch chi anfon .......... copi o becyn CEL "Car Free Days" £2.00 yr un yn cynnwys cludiant £............ Os gwelwch yn dda a wnewch chi anfon ..........copi o'r fideo "How green is your Church?" £7.50 yr un yn cynnwys cludiant £............. Rwyf yn anfon rhodd ychwanegol i helpu' r achos £........... Cyfanswm amgaedig £............ Os gwelwch yn dda a wnewch chi wneud y sieciau a'r archebion post yn daladwy i Christian Ecology Link. Christian Ecology Link, 3, Bond Street, Lancaster, LA1 3ER, UK. (Ffôn 01524 36241) Cefnogwyr:Y Gwir Barchedig James Jones, Fr Sean McDonagh, Y Gwir Barchedig Hugh Montefiore, Parch Dr Ruth Page, Yr Athro Syr Ghillean Prance, Jonathon Porritt, Dr Elaine Storkey. Rhif Cofrestredig yr Elusen 328744 Rhif Cofrestredig y Cwmni 2445198TYSTYSGRIF Y MILENIWMMae CEL yn gwahodd grwpiau o fewn yr eglwysi i gyflawni deg o bethau positif i warchod yr amgylchedd. Mae'n hawdd!Beth am gynnig enw eich eglwys chi ar gyfer Sialens Tystysgrif y Mileniwm CEL. Wrth wneud hyn fe fyddwch:
Fe ellwch gael pecyn i roi arweiniad i chi gan Christian Ecology Link, 3, Bond Street, Lancaster, LA1 3ER, UK. Mae'r problemau yn enfawr ac yn aml iawn yn perthyn yn agos iawn i’w gilydd ac nid ydym yn honni gwybod yr atebion i gyd. Dim ond Duw sy'n gweld y cyfan. Trwy ddilyn ei air Ef a cheisio ei arweiniad,gallwn gydweithio â'i bwrpas a darganfod yr adnoddnau i fedru ymateb i’r gwaith. |
||
|
Copyright © 1998-2008 Christian Ecology Link
http://www.christian-ecology.org.uk
email: CEL web editor
|
||